Tirwedd
 
Brief History
Hanes byr

Saif Chwarel Pen yr Orsedd ar odre mynyddoedd Eryri ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae hanes chwarelyddiaeth yn Nyffryn Nantlle yn ymestyn ganrifoedd lawer. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu deunaw chwarel llechi yn gweithio yn y dyffryn, gan gyflogi mwy na 2,300 o ddynion. Pen yr Orsedd oedd ymhlith y chwareli mwyaf pwysig, gyda chynnyrch o 8,500 o dunnelli y flwyddyn a 450 chwarelwr ar y llyfrau. Fe’i caewyd ym 1997.

 

Gweithwyd tyllau y chwarel mewn grisiau gan fwydo lefelau gweithiol neu ‘bonciau’ ar y llethrau oddi allan. Ar y Bonc Isaf fe godwyd melin lechi a chwt inclên. Ar y Bonc Ganol gwelir hen swyddfa’r chwarel, ysbyty, tai a’r gweithdy, ac ar Bonc y Brïg fe saif melin lechi arall.

Gobaith Tirwedd yw troi yr adeiladau ar y Bonc Ganol yn ysgol cadwraeth gan adfer yr hen weithdy a’r adeiladau sydd o’i gwmpas. Mae rhai o’r adeiladau yn dyddio o 1863; codwyd y gweddil rhwng 1899 a 1903. Mae’r periandy yn cynnwys adeiladau cerrig a sied sinc, gyda aelwyd gôf, periannau saer coed, craen gantri a bwrdd troi yr injans stêm.

Er bod yr adeiladau wedi dirywio ers y 1970au, maent yn arddangos yr hen ddull o weithio chwarel.

Diolch am ymweld â’n gwefan. Os hoffech fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Cysylltiadau cyflym:

 
 

Newyddion Diweddaraf:

 

Swyddfa gofrestredig: Nant y Felin, Ffordd Llanllyfni, Pen y Groes, Caernarfon, LL54 6LY
   
[t] +44 (0)1286 881857

Dylunwyd gan Delwedd